Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ionawr 2012
Adroddiad ar yr amserlen i ystyried Bil Cynulliad Cenedlaethol
Cymru (Ieithoedd Swyddogol)
1. Ar 30 Ionawr 2012, cafodd Bil y Comisiwn, ‘Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 24 Ionawr 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chytuno arnynt.
3. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 4 Mai 2012.
4. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 22 Mehefin 2012, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.